Logo'r Llyfrgell

Set elfennau metadata Dublin Core, fersiwn 1.1: disgrifiad cyfeiriol

Teitl: Set elfennau metadata Dublin Core, fersiwn 1.1: disgrifiad cyfeiriol
Dyddiad Cyhoeddi: 2003-07-23
Dynodydd: http://www.llgc.org.uk/metadata/dces.htm
Disgrifiad: Cyfieithiad Cymraeg o Set elfennau metadata Dublin Core, fersiwn 1.1: disgrifiad cyfeiriol

Cyflwyniad

Safon ar gyfer disgrifio adnoddau gwybodaeth mewn gwahanol feysydd yw set elfennau metadata Dublin Core. Diffinnir adnoddau gwybodaeth yma fel "pethau ag iddynt hunaniaeth". Dyma'r diffiniad a ddefnyddir yn Internet RFC 2396, "Uniform Resource Identifiers (URI): Generic Syntax", gan Tim Berners-Lee ac eraill. Nid oes unrhyw gyfyngiad sylfaenol ar y mathau o adnoddau y gellir pennu metadata Dublin Core ar eu cyfer.

Ceir tri fersiwn cymeradwy o set elfennau metadata Dublin Core, fersiwn 1.1:
Diwygiwyd y ddogfen bresennol i gydymffurfio â safonau ISO a NISO. Mae'r ddogfen "DCMI Metadata Terms", sy'n fwy cynhwysol, yn cynnwys y datganiadau termau diweddaraf a mwyaf awdurdodol ar gyfer set metadata Dublin Core, Fersiwn 1.1.

Am arolwg a chyswllt i fanylebau llawn ar gyfer yr holl dermau metadata sy'n rhan o'r Dublin Core Metadata Initiative ewch at : http://dublincore.org/usage/documents/overview/.

Yr Elfennau
Enw'r elfen: Teitl
Label: Teitl/Title
Diffiniad: Enw a roir i unrhyw adnodd.
Esboniad: Fel arfer Teitl fydd yr enw a ddefnyddir i adnabod yr adnodd.

Enw'r elfen: Crëwr
Label: Crëwr/Creator
Diffiniad: Yr endid sy'n bennaf gyfrifol am greu cynnwys yr adnodd.
Esboniad: Mae unigolyn, sefydliad, neu wasanaeth yn esiamplau o Grëwr. Fel arfer dylid defnyddio enw'r Crëwr i ddynodi'r endid.

Enw'r elfen: Pwnc
Label: Pwnc ac Allweddeiriau/Subject and Keywords
Diffiniad: Pwnc cynnwys yr adnodd.
Esboniad: Fel arfer caiff Pwnc ei fynegi trwy allweddeiriau, brawddegau allweddol, neu godau dosbarthu sy'n disgrifio pwnc yr adnodd. Cymeradwyir yr arfer da o ddewis y gwerthoedd o eirfa reoledig neu gynllun dosbarthu ffurfiol.

Enw'r elfen: Disgrifiad
Label: Disgrifiad/Description
Diffiniad: Adroddiad am gynnwys yr adnodd.
Esboniad: Mae crynodeb, rhestr gynnwys, cyfeiriad at gynrychioliad graffigol o'r cynnwys neu adroddiad testun-rhydd o'r cynnwys yn enghreifftiau o Ddisgrifiad, ond nid yr unig rai sy'n bosibl.

Enw'r elfen: Cyhoeddwr
Label: Cyhoeddwr/Publisher
Diffiniad: Endid sy'n gyfrifol am argaeledd yr adnodd.
Esboniad: Mae unigolyn, sefydliad neu wasanaeth yn esiamplau o Gyhoeddwr. Fel arfer dylid defnyddio enw'r Cyhoeddwr i ddynodi'r endid.

Enw'r elfen: Cyfrannwr
Label: Cyfrannwr/Contributor
Diffiniad: Endid sy'n gyfrifol am wneud cyfraniad at gynnwys yr adnodd.
Esboniad: Mae unigolyn, sefydliad, neu wasanaeth yn esiamplau o Gyfrannwr. Fel arfer dylid defnyddio enw'r Cyfrannwr i ddynodi'r endid.

Enw'r elfen: Dyddiad
Label: Dyddiad/Date
Diffiniad: Dyddiad digwyddiad yn ystod oes yr adnodd.
Esboniad: Fel arfer bydd Dyddiad wedi'i gysylltu â chreu neu argaeledd yr adnodd. Cymeradwyir yr arfer da o amgodio gwerth y dyddiad gan ddilyn proffil ISO 8601 [W3CDTF] sy'n cynnwys (ymhlith pethau eraill) gosod dyddiadau ar y ffurf BBBB-MM-DD.

Enw'r elfen: Math
Label: Math o Adnodd/Resource Type
Diffiniad: Natur neu genre cynnwys yr adnodd.
Esboniad: Mae Math yn cynnwys termau sy'n disgrifio categorïau cyffredinol, gweithrediadau, genres, neu lefelau cyfanrif ar gyfer dogfennau. Cymeradwyir yr arfer da o ddewis gwerth o eirfa reoledig (er enghraifft, DCMI Type Vocabulary [DCT1]). Defnyddir yr elfen FFORMAT i ddisgrifio ymddangosiad ffisegol neu ddigidol adnodd.

Enw'r elfen: Fformat
Label: Fformat/Format
Diffiniad: Ymddangosiad ffisegol neu ddigidol yr adnodd.
Esboniad: Fel arfer gall Fformat gynnwys y math o gyfrwng neu faint yr adnodd. Gellir defnyddio Fformat i nodi unrhyw feddalwedd, caledwedd, neu offer eraill sydd eu hangen i arddangos neu ddefnyddio'r adnodd. Cymeradwyir yr arfer da o ddewis gwerth o eirfa reoledig (er enghraifft, y rhestr o Internet Media Types [MIME] ar gyfer diffinio fformatiau cyfryngau cyfrifiadurol).

Enw'r elfen: Dynodydd
Label: Dynodydd Adnodd/Resource Identifier
Diffiniad: Cyfeiriad diamwys at yr adnodd o fewn cyd-destun penodol.
Esboniad: Cymeradwyir yr arfer da o ddynodi'r adnodd trwy linyn neu rif yn cydffurfio â sustem ddynodi ffurfiol. Mae'r Dynodydd Adnodd Unffurf (URI) (gan gynnwys y Lleoliadur Adnodd Unffurf (URL)), y Dynodydd Gwrthrych Digidol (DOI) a'r Rhif Llyfr Safonol Rhyngwladol (ISBN) yn enghreifftiau o sustemau dynodi ffurfiol.

Enw'r elfen: Ffynhonnell
Label: Ffynhonnell/Source
Diffiniad: Cyfeiriad at adnodd sy'n ffynhonnell i'r adnodd presennol.
Esboniad: Gall yr adnodd presennol fod wedi'i dynnu'n gyfan gwbl neu'n rhannol o'r adnodd Ffynhonnell. Cymeradwyir yr arfer da o ddynodi'r adnodd trwy linyn neu rif sy'n cydymffurfio â sustem ddynodi ffurfiol.

Enw'r elfen: Iaith
Label: Iaith/Language
Diffiniad: Iaith cynnwys deallusol yr adnodd.
Esboniad: Cymeradwyir yr arfer da o ddefnyddio RFC 3066 [RFC3066] sydd, ynghyd ag ISO639 [ISO639]), yn diffinio tagiau cynradd dwy a thair llythyren ynghyd ag isdagiau. Er enghraifft, "cy" neu "cym" ar gyfer Cymraeg, "en" neu "eng" ar gyfer Saesneg, ac "en-US" ar gyfer Saesneg y Taleithiau Unedig.

Enw'r elfen: Cysylltiad
Label: Cysylltiad/Relation
Diffiniad: Cyfeiriad at adnodd sy'n gysylltiedig â'r adnodd presennol.
Esboniad: Cymeradwyir yr arfer da o ddynodi'r adnodd y cyfeirir ato trwy linyn neu rif sy'n cydymffurfio â sustem ddynodi ffurfiol.

Enw'r elfen: Cwmpas
Label: Cwmpas/Coverage
Diffiniad: Ystod neu rychwant cynnwys yr adnodd.
Esboniad: Fel arfer, bydd Cwmpas yn cynnwys lleoliad gofodol (enw lle neu gyfesurynnau daearyddol), cyfnod amser (label cyfnod, dyddiad, neu ystod dyddiadau) neu awdurdod (megis endid gweinyddol ag iddo enw). Cymeradwyir yr arfer da o ddewis eu gwerthoedd o eirfa reoledig (er enghraifft, the Thesaurus of Geographic Names [TGN]) a defnyddio, lle mae'n briodol, enwau llefydd a chyfnodau amser yn hytrach na dynodwyr rhifol megis cyfesurynnau ac ystod dyddiadau.

Enw'r elfen: Hawliau
Label: Rheolaeth Hawliau/Rights Management
Diffiniad: Gwybodaeth am yr hawliau sydd yn yr adnodd, a throsto.
Esboniad: Fel arfer bydd Hawliau yn cynnwys datganiad rheoli hawliau ar gyfer yr adnodd, neu gyfeiriad at wasanaeth sy'n darparu'r fath wybodaeth. Mae gwybodaeth hawliau yn aml yn cynnwys Hawliau Eiddo Deallusol (IPR), Hawlfraint, a gwahanol Hawliau Eiddo. Os nad yw'r elfen Hawliau yn bresennol ni ddylid deall hynny fel datganiad ynglyn ag unrhyw hawliau sydd yn yr adnodd, neu drosto.

Cyfeiriadau
    * [DCT1] DCMI Type Vocabulary. DCMI Recommendation, 11 July 2000.
    * [ISO639] ISO 639-2 - Codes for the representation of names of languages. Alpha-3 code (ISO 639-2:1998)
    * [ISO3166] ISO 3166 - Codes for the representation of names of countries.
    * [MIME] Internet Media Types.
    * [RFC3066] Tags for the Identification of Languages, Internet RFC 3066.
    * [RFC2396] Uniform Resource Identifiers (URI): Generic Syntax, Internet RFC 2396.
    * [RFC2413] Dublin Core Metadata for Resource Discovery. Internet RFC 2413.
    * [TGN] Getty Thesaurus of Geographic Names.
    * [W3CDTF] Date and Time Formats, W3C Note.

Lyn Lewis Dafis
Llyfrgell Genedlaethol Cymru 2003-07-23
National Library of Wales 2003-07-23